A470  Ffansin Ar-Lein Pel Droed Cymru ·  On-Line Welsh Football Fanzine    


Gwefreiddiol.
Does n’am gair arall i ddisgrifio’r noson.
GWEFREIDDIOL!

Noson anhygoel, bythgofiadwy.

Dim ots sawl gwaith rwy’n gweld gôl Simon Davies na chlywed sylwebaeth gôl Craig Bellamy, mae’n gyrru ias oer i lawr fy nghefn.
”Gabiddon i Hartson, Hartson i Bellamy – mae Bellamy wedi mynd o amgylch y golwr ...”
Anhygoel!

Wedi dod yn aelod o’r criw dedwydd sy’n dilyn Cymru dramor, rwy’n teimlo’n freintiedig iawn i allu cyfri nifer ohonnynt yn ffrindiau bellach, ac roedd y noson yn fwy cofiadwy byth o fod yn eistedd â’r ffrindiau hynny yn ystod y gêm.

Er nad oes gennyf gymaint o filltiroedd ar y cloc a’r rhan fwyaf o’r criw yma, rwyf wedi teithio cannoedd o filltiroedd ac yn bwysicach fyth - yn ôl y wraig – wedi gwario cannoedd os nad miloedd o bunau, yn dilyn y tîm cenedlaethol o wlad i wlad.

Mae’r ffaith bod tridiau yn Kiev yn costio cymaint ­â phythefnos yn Barbados yn boen meddwl i’r missus.Tydi’r ffaith bod lluniau pob taith ffwtbol yn union yr un fath - maes awyr - bar - stadiwm - bar - gwesty - bar - bar - bar - maes awyr - ddim yn helpu llawer chwaith!

Fodd bynnag, mae’r rheswm dros deithio - y pêl-droed - wedi bod yn ddifrifol ar brydiau.
Pwy all anghofio Vinnie Jones yn gapten ar Gymru a cholli 7-1 yn Eindhoven, neu camgymeriad erchyll Paul Jones ym Minsk welodd Cymru’n colli 2-1?

Mae’r gemau cartref wedi bod digon siomedig hefyd; Armenia yn Stadiwm y Mileniwm, Y Swistir ar Y Cae Ras neu Georgia ar Barc yr Arfau.

Rwy’n siwr bod gan pawb atgof cyn waethed os nad gwaeth na fi o wylio Cymru dros y degawd ddiwethaf.

Ond, mae holl siom a thrallod y perfformiadau erchyll rhain yn gwneud canlyniad fel Cymru 2 Yr Eidal 1 hyd yn oed yn well.
Fyddai’r noson wedi bod cystal petai Cymru wastad yn curo’r Azzuri?

Fyddai Stadiwm y Mileniwm wedi gweld dwsin o ddynion yn eu 30au’n cofleidio eu gilydd dan grio petai Cymru’n curo cewri’r byd pêl-droed yn beth cyffredin?

Mae’n ddowt gen i!

Faint o hwyl fydde dilyn tîm llwyddiannus?
Teithio i wledydd anghysbell yn sicr bod eich tîm yn mynd i ennill ...
Gwybod wrth weld eich prif chwaraewr yn cael ei anafu tra’n chwarae i’w glwb bod chwaraewr cystal i gymeryd ei le ...
Cael dewis carfan gyfan o chwaraewyr sydd yn enwau adnabyddus led-led Ewrop ...

Fel cefnogwr Wrecsam a Chymru does gen i ddim syniad beth yw dilyn llwyddiant ... ond dwi’n amau’n gryf bod nosweithiau fel Hydref 16, 2002 i’w cael yn amal yn Yr Almaen, yn Yr Eidal neu hyd yn oed, os ga’i grybwyll y fath beth ... yn Lloegr?

Byddai papurau newydd y gwledydd yma wedi rhagdybio canlyniad da, a byddai unrhywbeth llai na buddugoliaeth yn warth.
Dyna lle mae degawd o drychineb ar y maes pêl-droed wedi bod o fydd i ni fel cefnogwyr a bellach rwy’n credu fy mod wedi ennill y bet o £10 a gefais gyda rhai o’m ffrindiau.

Bet na fuaswn yn gallu ysgrifennu erthygl fyddai’n cyfiawnhau teyrnasiad Bobby Gould fel rheolwr y tîm cenedlaethol!

home