A470
Ffansin Ar-Lein Pel Droed
Cymru · On-Line Welsh Football Fanzine

FYTdOP
“Pwy
sy’n ffansi mynd i Belarws?”. Dyna sut ddechreuodd y sgwrs.
Roedd y
criw arferol o hogia i lawr yng Nghaerdydd ar gyfer y gem fawr yn erbyn Brasil
yn Stadiwm y Mileniwm. Gyda phob sedd yn y stadiwm wedi’w werthu roedd yn
argoeli i fod yn achlysur i’w gofio; ‘Stadiwm y Mileniwm yn Ysgwyd i Swn
y Samba', neu dyna oedd yr hysbysebion am i chi gredu. Yn anffodus roedd
gormod o bobl wedi gwario £10 i ddod i ryfeddu ar y stadiwm newydd yn hytrach
na sgiliau pel droed Robbie Page, Robbie Savage a Rivaldo, ac o ganlyniad
awyrgylch marwaidd a gafwyd o’i gymharu a’r gem yn erbyn Belarws ar Barc
Ninnian dwy flynedd yn gynharach.
“Fydd
y crysau rygbi ddim yn mynd i Minsk”, ychwanegodd un arall. Cyfeiriad at y
nifer fawr o grysau rygbi Caerdydd a Chymru oedd o gwmpas y stadiwm oedd hyn,
ffieidd-dra i ni, Gogs glan gloyw sydd a chasineb pur at y gem rygbi wirion!
Felly
dyna ni, am ychydig wedi unarddeg o’r gloch nos ar ol peint neu bump o
Guinness, roedd y penderfyniad wedi’w wneud; roeddem ni am fynd i Minsk.
Wrth
gwrs, roedd angen tusw o flodau ac addewid i’r wraig y byddai’n cael mynd ar
wyliau i
rhywle poeth cyn bod ffurflen gais y visa yn cael ei llenwi.
Roedd
rheswm arall dros gytuno i deithio i Belarws ... roedd pawb yn disgwyl
buddugoliaeth!
Fel
criw o hogia rydym wedi teithio cryn dipyn o filltiroedd yn cefnogi Cymru
dramor, ond mae’n rhaid mynd yn ol sawl blwyddyn cyn i un ohonom fod yn
bresennol mewn gem fuddugol oddi-cartref.
Gan mai saith buddugoliaeth yn unig yr
oedd Belarws wedi’w gofrestru ers ymuno a FIFA ym 1992, roeddem yn eitha
hyderus o gael trip i’w gofio a phrofi buddigoliaeth dramor ...
Roedd y
daith yn arwydd fod pethau am fod yn dra wahanol yn Belarws.
Wrth chwilio am fy
sedd ar awyren cwmni Belavia; sedd 19C, cefais fraw o ddarganfod mai 17D
oedd y sedd olaf ar fwrdd yr awyren. Cefais fy llusgo gerfydd fy ngwallt gan yr hostess,
merch a oedd yn siwr o fod wedi taflu ambell i ddisgen neu shot-putt o
gwmpas maesydd athletau dwyrain Ewrop. Rhoddodd fi i eistedd ger aelod o’r
KGB, wel - roedd o’n edrych yn union fel y dylsai aelod o’r KGB edrych ...
craith bach ar ei foch, siwt ddu, crys gwyn, tei du, llwyth o Brylcreme
ac oglau chwys uffernol! Nid boi clen oedd yn mynd i’r ysgol Sul pob wythnos
ac yn glen efo’i fam ac anifeiliaid anwes mo hwn.
Roedd
rhywbeth arall od iawn am Igor – efallai nad Igor oedd ei enw, ond roedd yn
edrych fel Igor, a hynny am i bob aelod o’r criw, gan gynnwys y peilot (a
roedd hyn yn boen meddwl i mi ar y pryd; 5,000 o droedfeddi uwchben Gwlad Pwyl)
alw heibio a rhoi pecyn o arian a pecyn o fwyd iddo. Gwaethygodd f’amhaeon
wrth iddo wrthod Barley Sugar gen i ddwy waith ... does neb call yn
gwrthod Barley Sugar! Treuliais weddill y siwrna yn hanner disgwyl iddo
sibrwd rhyw neges cudd yn fy nghlust ... “Ze rain in Spain falls mainly on
ze plain ... velcome to Mother Russia agent Pritchard”
Roedd
un o’r hogia eraill yn cael trafferth hefyd. Roedd ei wregys diogelwch yn
gwrthod cau ac wrth i’r stiward geisio datrus y broblem - daeth y gwregus i
ffwrdd yn ei law! Beth ar y ddaear wnai rwan? Nid oedd yr un sedd sbar i’w
gael ar yr awyren, yr unig beth i’w wneud oedd clymu coblyn o gwlwm mawr yn y
gwregus a chroesi bysedd!
Wrth gyrraedd maes awyr Minsk-2, doedd gen i ddim syniad o gwbwl beth i’w ddisgwyl. Mae blynyddoedd o bropoganda gwrth-gomiwnyddol y gorllewin wedi creu delwedd llwm iawn i’r rhan helaeth o orllewinwyr o’r gweriniaethu cyn-Sofietaidd. Roedd yr anghenfil concrit o faes awyr yn atgyfnerthu’r ddelwedd. Mae un llyfr tywys ar Belarws yn mynd mor bell a disgrifio’r wlad fel hen botel o lefrith yng nghefn yr oergell; mae pawb yn gwybod ei fod yn ddrwg ond eto am ei ogleuo drostynt ei hunain!
Roedd
gwaeth i ddod yn y gwesty. Er fod bwrdd croeso Belarws (oes, mae yna fwrdd
croeso!) yn hysbysebu’r gwesty fel un a phedair seren, dwi’n amau’n gryf
os oedd boi yr AA neu’r RAC wedi cael cyfle i ddod draw i weld y cyflesterau!
Roedd gan ein ystafell en-suite ddau wely caled gythreilig, un bwrdd a
theledu oedd yn cymeryd ugain munud i gynhesu cyn dod ymlaen. Yn yr ystafell
molchi, roedd y gawod a’r toiled yn rhannu yr un draen, sef twll yng nghanol y
llawr ac er fod toweli glan ar gael pob bore, ych a fi ydi ych a fi mewn unrhyw
iaith mewn unrhyw wlad!
Gyda
llaw cawsom bum munud hwyliog iawn yn gwylio fersiwn Belarws o ‘Who Wants
To Be A Millionaire?’ ar y teledu, nes sylweddoli ein bod ni oll yn
filiynyddion ar ol cyfnewid ein arian!
Mae llywodraeth Belarws yn ceisio creu economi gwell trwy ail-sefydlu’r rouble, arian y wlad. Mae 1,000,000 hen rouble gwerth yr run faint a 1,000 rouble newydd OND gan fod pawb yn dal i ddefnyddio’r hen arian yn ogystal a’r arian newydd mae pethau’n gymleth iawn! Roedd nodyn 10 rouble newydd yn gyfatebol i nodyn 10,000 hen rouble a roedd nodyn 100,000 hen rouble yn gyfatebol i nodyn 100 rouble newydd a roedd yn wastraff amser llwyr derbyn nodyn 10 hen rouble! O ystyried mai 60c oedd gwerth 1,000 rouble newydd, neu 1,000,000 hen rouble, roedd prynnu rownd o ddiod yn brofiad a hanner! Ar un adeg roedd gen i dros gant a hanner o wahanol arian papur yn fy mhoced a’r cyfanswm yn werth llai na £1!!
Cafodd
dinas Minsk ei chwalu’n deilchion yn ystod yr ail ryfel byd yn dilyn bomio
di-baid yr Almaenwyr a pholisi Byddin Goch Stalin o losgi pob adeilad cyn ffoi.
Erbyn heddiw mae’n ddinas o fflatiau llwyd a lonydd llydan gydag ambell i
gerflun mawr crand fan hyn a fan draw; testament i bensarniaeth Sofietaidd.
Cafodd 50% o drigolion Minsk eu lladd yn y rhyfel, gan gynnwys bron i 50,000
o’r boblogaeth Iddewig. Alltudwyd yr Iddewon, Comiwnyddion a llawer i ‘elyn
y wladwriaeth’ i concentration camps y natsiaid yn yr Almaen a Gwlad
Pwyl.
Nid yr Almaenwyr oedd y cyntaf i ganfod Belarws yn fan cyfleus i oresgyn, yn wir yn y drydedd ganrif ar ddeg, roedd Belarws yn ran o ddugiaeth Lithiwania, Gwlad Pwyl yn yr unfed ganrif ar bymtheg, Rwsia yn y ddeunawfed ganrif ac yna yn yr ugeinfed ganrif roedd yn cael ei reoli ar un adeg ne’i gilydd gan Wlad Pwyl, yr Almaen a’r Undeb Sofietaidd. Roedd yn syndod fod trigolion Minsk mor hapus i’n gweld o gofio fod yr ymwelwyr blaenorol wedi ceisio dinistrio’r ddinas a llywodraethu’r wlad.
Er mor hapus, roedd y Minskiaid wedi synnu braidd fod unrhyw un wedi trafferthu teithio i’r wlad. Cawsom groeso cynnes iawn gan unrhyw un a welai ein crysau coch, cafodd rhai groeso cynhesach nag eraill ... ond stori arall ar gyfer amser arall yw honno. Roeddent yn gyfeillgar iawn a roeddem ni yn gyfeillgar yn ol ... er rwy’n credu i Paul Jones fod yn rhy gyfeillgar wrth iddo ollwng y bel i lwybr Alexandr Khatskevich o glwb Dinamo Kyiv i rwydo ei gol ryngwladol gyntaf erioed!
Aeth
34,950 o’r dorf yn Stadiwm Dinamo yn wallgo bost a dyna pryd y dechreuodd yr
hanner cant o Gymry oedd yno feddwl pam yr oeddem wedi teithio bron i fil a
hanner o filltiroedd i eistedd ar sedd blastig oer yn y glaw wedi ein amgylchu
gan hanner byddin Belarws ac ar ben hyn oll wedi gwario ... wel ... digon o
arian i deulu o bedwar dreulio pythefnos digon cyfforddus yn Florida!
Wedi’r
hanner aeth pethau o ddrwg i waeth wrth i Valentin Belkevich rwydo’r ail ac o
fewn deng munud roedd pethau’n hunllefus wrth i Craig Bellamy wynebu’r
cerdyn coch. Erbyn hyn roedd y vodka wedi dechrau cymeryd gafael ar y Cymry a
doedd dim amdani ond mwynhau ein hunain er gwaetha’r canlyniad. Wn i ddim beth
oedd yn mynd trwy feddyliau’r fyddin druan wrth i hanner cant o Gymry
ddatguddio eu boliau cwrw gwyn a dechrau neidio i fyny ac i lawr dan chwifio’r
crysau uwch ein penau a chanu fersiwn hanner awr o ‘Gwyr Harlech’.
Welais i ddim gol gysur hwyr Gary Speed. Roeddwn wedi hanner anghofio am y gem
– y canu a’r hwyl oedd yn bwysig erbyn hynny! Gyda’r nos roedd nifer o’r
Cymry wedi ymgynyll yn y Moscow Bar; sinema yn ystod y dydd a chlwb nos
gyda’r hwyr. Gyda’r cwrw a’r vodka yn llifo a’r DJ yn cyflwyno pob yn
ail gân i’r “Crazy guys from Wales” aeth y dathlu a’r dawnsio
ymlaen hyd oriau man y bore... od iawn a chysidro bod Cymru wedi colli! Mae’n
debyg mai dyma pam y byddaf yn ysu i deithio dramor i weld Cymru ... am yr hwyl.
Wrth sefyll yn Eindhoven dan ganu “Always Look On The Bright Side of Life” a hynny gyda llai na hanner awr o’r gem wedi’w chwarae, gem a orffenodd mewn crasfa o 7-1, sylweddolais nad oeddwn yn teithio er mwyn gweld buddugoliaethau bellach! Awr a hanner ar ganol y trip ydi’r gem ... awr a hanner go bwysig, wrth gwrs, ond prin fyddai’n cofio’r pel droed gan i’r hwyl a’r helyntion oresgyn diflasdod y canlyniad ac aros yn y cof am hir iawn. Felly os ydch am ddilyn tim pel droed cenedlaethol Cymru dramor, yr hyn sydd ei angen ydi synnwyr digrifwch a digon o bres i brynnu peint neu ddau ar ol cyrraedd!
![]()